Mae'r ffordd yn awr yn rhydd
Wel dacw'r ffordd yn rhydd

(Dihangfa i'r bywyd trwy waed yr Oen)
  Mae'r ffordd yn awr yn rhydd,
    Agorwyd hi o bob tu,
  O ddyfnder daear las,
    I uchder nefoedd fry:
O dring O dring, fy enaid mwy,
Mae nerth i'w gael
      mewn marwol glwy'

  Mae'r orsedd wen yn rhydd,
    Aeth Magdalen y'mlaen;
  Menasse hefyd sydd
    Yn seinio'r nefol gan:
Hyfrydaf dôn, swn peraidd yw,
Am ddwyfol rinwedd gwaed fy Nuw.

  Ffown bellach oll ar frys,
    Edrychwn yn y blaen;
  Mae golwg hyll yn ol,
    Sodoma sydd ar dân!
Y'mlaen, y'mlaen, i'r mynydd draw
O tynn fi Iesu yn dy law.

  Pan tynno angau glas,
    Y ty o bridd i lawr,
  A gorfod canu'n iach,
    I enwau fach a mawr;
Enw fy Nuw fydd fwy'r pryd hyn,
Na holl gysuron bro a bryn.

  'Run destyn a'r un sain,
    Fydd y caniadau llon,
  Angylion yn y nef,
    A seintiau'r ddaear hon:
Y mawl, y clod,
      a'r enw mwy,
Fo i'r hwna ddioddefodd farwol glwy'.

             - - - - -
("Ffordd newydd a bywiol")
  Wel dacw'r ffordd yn rhydd,
    Agorwyd hi o bob tu!
  O ddyfnder daear las
    I uchder nefoedd fry;
O dring, O dring, fy enaid mwy!
Mae nerth i'w gael
      mewn dwyfol glwy'.

  Wel bellach ffown i maes,
    Edrychwn yn y blaen,
  Mae golwg hyll yn ol,
    Sodoma sydd ar dân;
Yn mlaen, yn mlaen, i'r creigydd byw,
Y Söar fach lle mae fy Nuw.

  Yn y mynyddau hyn,
    Ca'i ro'i fy mhen i lawr,
  A gorphwys byth yn iach,
    Oddiwrth y 'storom fawr;
N'all dwr na thàn,
      i gloddio'm sail,
Er curo arna'i bob yn ail.

  Mae'r ffordd yn awr yn rhydd,
    O'r ddae'r i entrych ne',
  Er pan y daeth fy Nuw,
    I ddyoddef yn fy lle;
Mae'r nef, mae'r nef, o led y pen,
Can's hi ddyoddefodd ar y pren.
William Williams 1717-91

Tonau [666688]:
  Carter Lane (<1829)
Kendal (<1876)

gwelir:
  A heibio'r dywell nos
  Disgleiriodd boreu wawr
  Fe gân 'tifeddion gras
  Mae lluoedd maith ymlaen

(Escape to the life through the blood of the Lamb)
  The way is now free,
    It was opened on every side,
  From the depths of blue-green earth,
    To the height of heaven above:
O climb, O climb, my soul, henceforth,
There is strength to be had
      in a mortal wound.

  The white throne is free,
    Magdalen went forward;
  Manassah also is
    Sounding the heavenly song:
The most lovely tune, a sweet sound it is,
About the divine merit of my God's blood.

  Let us all flee henceforth hurriedly,
    Let us look forward;
  There is an ugly scene behind,
    Sodom is on fire!
Forward, forward, to yonder mountain
O draw me, Jesus, in thy hand.

  When utter death pulls,
    The house of earth down,
  And forces to say farewell,
    To names small and great;
The name of my God shall be greater then,
Than all the comforts of vale and hill.

  The same them and the same sound,
    Shall be the cheerful songs,
  Of angels in heaven,
    And the saints of this earth:
The praise, the acclaim,
      and the name evermore,
Be to him who suffered a mortal wound.

             - - - - -
("A new and living way")
  See yonder the way is free,
    It was opened on every side!
  From the depth of blue-green earth
    To the height of heaven above;
O climb, O climb, my soul evermore!
There is strength to be had
      in a mortal wound.

  See henceforth let us flee away,
    Let us look forward,
  The view is ugly behind,
    Sodom is on fire;
Forward, forward, to the living rocks,
The little Soar where my God is.

  In these mountains,
    I may lay my head down,
  And reast forever safely,
    Away from the great storm;
Neither water nor fire is able
      to undermine my foundation,
Despite beating upon me alternately.

  The way is now free,
    From the earth to the vault of heaven,
  Since my God came,
    To suffer in my place;
The heaven is, the heaven is, wide open,
Since it suffered on the tree.
tr. 2017 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~